Croeso mawr yn Lerpwl
Ymarfer yn y bwyty nos Wener
John wrth y piano
Cafodd y côr groeso mawr gan gynulleidfa Gymraeg Bethel, Lerpwl, nos Sadwrn, Hydref 25, 2014. Y Parch D. Ben Rees lywiodd y noson o ganu, gyda Helen Gibbon, Heledd Evans, a Sion Goronwy’n unwawdwyr, a John Evans wrth y piano. Canodd y côr ddeuddeg o ganeuon, gan gynnwys Cytgan y Caethweision o waith Verdi a Ddoe mor Bell, addasiad Ryan Davies o g?n y Beatles. Gorffennwyd gyda datganiad o Tangnefeddwyr, Waldo Williams, a cherddoriaeth Eric Jones.
Ymarfer cyn y gyngerdd
Un o ganeuon?Heledd oedd?Gwynfyd gan Crwys, cerddoriaeth Meirion Williams a chanodd Helen Ynys y Plant, geiriau Elfed a cherddoriaeth E T Davies. Ymysg eraill canodd Sion Goronwy aria enwog y Tywysog Gremin? o opera Tsiacoffsgi, Ewgen Onegin.
Heledd Evans
Sion Goronwy
Dyma un o gyngherddau mwyaf cofiadwy’r côr.
Y Parch D Ben Rees a David Williams yn trafod adeg David a Greta yn Lerpwl
Helen yn hapus