Roedd y côr yn fuddugol yn Eisteddfod yr Hendy a gynhaliwyd nos Sadwrn, Mai 9, 2009, gan dderbyn gwobr hael o ?300 a’r cwpan a gyflwynwyd i’r Eisteddfod gan yr Eglwysi Rhyddion.
Y beirniad oedd Alun Guy. Canmolodd y dewis o ddau ddarn uchelgeisiol, Y Aderyn o waith Brian Huges ac Ym Mhenrhyn Gwyr, geiriau Mererid Hopwood, a’r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi gan Eric Jones yn arbennig i Helen Gibbon, arweinydd y côr ac i Gôr Ty Tawe.
Dyma’r perfformiad cyntaf o Ym Mhenrhyn Gwyr.
Canmolodd Alun Guy sawl elfen o ganu’r côr a’r dehongliad o ddau ddarn tra gwahanol, a rhoddodd glod arbennig hefyd i John Evans y cyfeilydd.
(Lluniau: Peggi Rodgers)