Category Archives: Hanes

CD Ym Mhenrhyn Gwyr

CERDD MERERID HOPWOOD YN GAN DEITL I CD COR TY TAWE

?Ym Mhenrhyn G?yr?, cerdd ddiweddar gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth wedi?i chyfansoddi?n arbennig gan Eric Jones i Gôr Tŷ Tawe a Helen Gibbon, yw c?n deitl CD newydd Côr Tŷ Tawe.

Mae?r CD yn cynnwys caneuon amrywiol gan y côr, ac unawdau a deuawdau gan Helen Gibbon, yr arweinydd, a Sion Goronwy, y canwr bas o?r Bala.

Continue reading

Recordio CD

Daeth y sesiynau recordio? CD yng Nghapel y Babell, Caerfyrddin, i ben.

Recordiwyd deg o ganeuon, gyda Sion Goronwy a Helen Gibbon yn canu Benedictus, Rhisiart Arwel.? Recordiodd Helen Sion hefyd ganeuon ar gyfer y CD.

Cyngerdd Capel Awst

Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yng Nghapel Awst, Caerfyrddin, nos Iau Hydref 8, 2009. Daeth cynulliad da ynghyd, a chanodd y côr lawer o’r caneuon a fydd ar y CD newydd. Yn eu plith roedd Ym Mhenrhyn Gwyr, geiriau Mererid Hopwood, cerddoriaeth Eric Jones, a gyfansoddwyd yn benodol i’r côr. Continue reading

Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau i Helen ein harweinydd ar ddod yn 3edd yn y gystadleuaeth Lieder (39 yn cystadlu) a hefyd yn 3ydd yn y gystadleuaeth Mezzo-soprano yn Eisteddfod Genedlaethol Meirionydd a’r cylch eleni.? Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn y gystadleuaeth hon. Cafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.