Bu aelodau’r côr yn cymryd rhan mewn dwy noson o ganu plygain, y naill yn Llanddarog, a’r llall yn Llandeilo.
Bu aelodau’r côr yn cymryd rhan mewn dwy noson o ganu plygain, y naill yn Llanddarog, a’r llall yn Llandeilo.
Cafodd y côr dipyn o hwyl fore Sadwrn, Tachwedd 14, yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne. Canodd y côr am awr a hanner dan do cromen yn y ty gwydr. Er bod y gwynt yn arw a’r glaw’n arllwys y tu allan, cafodd y côr groeso brwd gan stondinwyr yr ?yl anrhegion a’r gwrandawyr ger byrddau’r caffe.
Ddiwedd Medi cynhaliodd y côr gyngerdd i Ferched y Wawr, Pontarddulais yn Stiwt y Bont. Canodd y côr ddetholiad o’i raglen o ganeuon Cymraeg.? Cymerodd deunaw aelod o’r côr ran yng nghyngerdd dathlu 50 mlwyddiant Côr Waunawrlwydd, yn y Tabernacl, Treforys ar y 7fed o Dachwedd.
Bydd cyngerdd nesaf yn côr yn yr Ardd Fotaneg fore Sadwrn, Tachwedd 14.
Cafodd y côr noson i’w chofio yng Nghapel y Wern, Ystalyfera, nos Sadwrn, Medi 5 am 7.? Roedd y rhaglen helaeth yn cynnwys darnau gan Eric Jones, Islwyn Ffowc Ellis, Robat Arwyn, Derec Williams, Karl Jenkns a Verdi.? Cafwyd eitemau grymus gan Heledd Evans a Dafydd Evans. Helen oedd yn arwain a John wrth y piano.
Cafodd yr haf ei ddathlu gyda noson hwyliog iawn yn Nhy Tawe, nos Fercher, Gorffennaf 8, 2015. Cafodd pawb bowlen hael o fefus, a detholiad blasus o deisennau a phice. Canodd y côr naw o eitemau gan gynnwys tair o rai newydd. Helen Gibbon oedd yn arwain a Fiona Gannon wrth y piano. Canodd Jenny g?n hyfryd Amser Haf, Bill oedd unawdydd Dal hi’n Dynn, ac arweiniodd Helen Evans y canu gyda’r gynulleidfa.
Gorffennodd Cymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt eu tymor yn y dull arferol erbyn hyn, gyda pherfformiad gan y côr, nos Lun Mehefin 15, 2015.? Roedd yn noson braf, ac roedd eitemau gan grwp ensemble offerynnol Ysgol Gwyr a dwy o ddisgyblion Ysgol Brynymôr yn wych. Canodd Côr Ty Tawe nifer o ganeuon newydd iddo, gan gynnwys Yr Oenig gan John Taverner, a thair c?n werin Hwngaraidd gan M?ty?s Seiber.
Cafodd y côr gyfle i gymryd rhan mewn noson i ddiolch i’r Canon John Walters wrth iddo ymddeol.? Cynhaliwyd y noson yn yr Institiwt Pontarddulais gan Gyngor y Bont, nos Iau, Ebrill 29. 2015.
Kevin Johns oedd yn arwain y noson a chafwyd anerchiadau gan Eric Jones, ar ran capeli Pontarddulais, y Tad John Thomas ar ran y Gymuned Gatholig a Norman Lewis ar ran eglwysi Apostolig y cylch.
Gwnaed cyflwyniad i John Walters gan y Cynghorydd Kevin Griffiths, Maer Cyngor Tref Pontarddulais.
Bu’r côr yn canu ganol dydd, Chwefror 28, yn y babell berfformio ger y farchnad, yn rhan o ddathliadau Gwyl Ddewi’r ddinas.? Yna ymunodd aelodau’r côr ?’r orymdaith o gannoedd o gwmpas strydoedd canol y ddinas, gan ganu hwnt ac yma.