Author Archives: Heini

cynherddau haf

CYNGHERDDAU’R HAF

Bu digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn, Gorffennaf 10.? Priododd Elanna, merch Enid sy’n canu gyda’r sopranos, ym Methel Sgeti, a bu’r côr yn canu yn ystod y gwasanaeth. Daeth hyn ? gweithgareddau’r côr i ben am yr haf.? Bydd y côr yn ailgychwyn nos Fercher, Medi 8.

Nos Wener, Gorffennaf 2, cynhaliodd?Côr gyngerdd i ddathlu agor?Festri newydd Bethel, Sgeti.? Cafwyd hwyl ar ganu’r Utgorn a Ddiogyn Bach, a hefyd Ym Mhenrhyn Gwyr, ymhlith eitemau eraill.? Roedd dwy unawdydd – Abigail Sara ac Eleri Gwilym, a chafwyd datganiad ar y delyn gan Elin Samuel.

Recordio CD

Daeth y sesiynau recordio? CD yng Nghapel y Babell, Caerfyrddin, i ben.

Recordiwyd deg o ganeuon, gyda Sion Goronwy a Helen Gibbon yn canu Benedictus, Rhisiart Arwel.? Recordiodd Helen Sion hefyd ganeuon ar gyfer y CD.

Cyngerdd Llangennech

Ymunodd Cor Ty Tawe a Chor y Rhyd i ganu Requiem Faure yn Llangennech, nos Sadwrn, Tachwedd 8, 2008. Yr organydd oedd Alan Fewster, a Cherddorfa Siambr Cymru oedd y gerddorfa. Cafwyd eitemau pellach ganddyn nhw, gan gynnwys Symffoni rhif un gan William Boyce a Concerto Grosso Op.6 rhif 12 gan Handel. Continue reading

Cymanfa Ganu : Caniadaeth y Cysegr

Helen Gibbon oedd arweinydd y Gymanfa Ganu a gynhaliwyd nos Sul, Medi 28, 2008, i ddathlu 150 mlwyddiant Capel Trinity, Llanelli. Cynhaliwyd y Gymanfa yng Nghapel Newydd, Llanelli. Canodd y côr ‘Hwn yw Ty Dduw’ yn ogystal ? chanu 14 o emynau gyda’r gynulleidfa. Cymerwyd rhan hefyd gan Gôr Curiad. Recordiwyd y cyfan ar gyfer rhaglen Caniadaeth y Cysegr

 

Cyfansoddiad

Cyfansoddiad Côr Tŷ Tawe

1. Enw
Côr Tŷ Tawe
2. Amcanion
  • Hyrwyddo canu corawl Cymraeg a safonau canu corawl
  • Hybu a helpu aelodau i astudio, ymarfer a pherfformio gweithiau corawl cymysg
  • Creu gweithgarwch sy?n hybu doniau amrywiol o fewn y côr
  • Creu gweithgarwch sy?n hyrwyddo Cymreictod yn Abertawe a?r ardal
  • Cefnogi gweithgarwch elusennol Continue reading