Ffurfiodd naw o’r côr barti plygain i ganu yn y Gwasanaeth Plygain a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Twrog, Llanddarog, brynhawn Sul, Ionawr 8. Roedd yn noson o ganu plygain braf gan ryw ddeg o bartion, a’r eglwys yn llawn a danteithion a gwin i’r cantorion a’r gynulleidfa. Mwynhaodd y parti wledd yn nhy Janet cyn ymarfer ar gyfer y gwasanaeth.