Am y Côr

Sefydlwyd Côr Tŷ Tawe yn 1990 yn gôr pedwar llais i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Abertawe a’r cylch. (Ty Tawe yw canolfan Gymraeg Abertawe.)

Mae’r côr yn cynnal cyngherddau ledled de Cymru, ac enillodd y gystadleuaeth i gorau bach yng Ngwyl Ban-Geltaidd Iwerddon bedair gwaith. Arweiniwyd y côr am 30 mlynedd gan Helen Gibbon, a ymddeolodd cyn y Nadolig 2022. Bu John Evans yn gyfeilydd bron o’r cychwyn, ac ymddeolodd ef yr un pryd. Bydd colled fawr ar eu hôl, a diolch i’r ddau am wasanaeth hir a gwych iawn.

Cyngerdd Cwmann

Mae’r côr hefyd wedi teithio’n eang, gan gynnwys cyngherddau yn yr Almaen, Awstria, Gwlad Pwyl, a Phrâg, lle y canodd mewn cyngherddau yn Eglwys St Nicolas, ar yr hen sgwâr, ac yn neuadd y dref, Nusle. Bu’r côr ar daith i Awstria a’r Almaen yn 2004 gyda chyngherddau yn eglwys gadeiriol Salzburg, Mondsee, Zell am See a Grafing ger Munich.

Yn 2005 teithiodd i Berlin a Wittenberg, ac yn 2007 bu?n canu yn eglwys gadeiriol Barcelona, eglwys abaty Montserrat ac eglwys St Pacia. Yn 2009 aethpwyd ar daith i Gdansk, Gwlad Pwyl i gynnal dwy gyngerdd. Cafodd y côr daith lwyddiannus i’r Eidal, gan ganu yn Rovigo, 2011, Llundain 2012 a Lerpwl 2014.

Mae’r côr yn canu amrywiaeth o alawon gwerin, emynau a chaneuon modern a darnau clasurol.

Cychwynnodd y côr yn gôr i bobl ifanc, ac mae’n dal i roi lle amlwg i’r aelodau iau.

Mae’r côr yn croesawu aelodau newydd: cysylltwch os ydych chi’n gallu canu – mae’r manylion cyswllt yn yr adran Ymuno.

Mae’r côr hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer cyngherddau: mae’r manylion yn yr adran Trefnu cyngerdd

RY’N NI’N EDRYCH MLAEN I GLYWED ‘DA CHI.

(For information in English, please click on the English page.)