Fe gawson ni flwyddyn brysur iawn, ac mae?n werth cofio?r cyfan:
14 Hydref 2011:??Cyngerdd Er Hwylio?r Haul yng Nghlydach
Wythnos olaf Hydref 2011: Taith i Rovigo, Cyngerdd i
gynulleidfa o 300 yn y Rodonda, Rovigo, a dwy gyngerdd arall yn Rovigo gyda Chôr Meibion Monte Pasubio a hefyd yn Boara Pasini,?a gwleddoedd ar ôl y cyngherddau.
10 Rhagfyr, 2011:???Noson o ganu Nadolig yn Nhy Tawe
14 Rhagfyr, 2011: Cyngerdd Nadolig ym Mhontlliw
(hefyd yn Rhagfyr: aeth rhai o aelodau?r côr i gynorthwyo Côr y Rhyd gyda chanu?r Meseia yn Gymraeg)
29 Chwefror, 2012, Ty Tawe: ? Cawl a Ch?n
Mai 12, 2012: Cystadlu yn Eisteddfod yr Hendy
Mehefin 18, 2012:?Cyngerdd i Gymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt
Gorffennaf 4, 2012: Noson o Ganu Haf, Ty Tawe
Dyna ddeg o nosweithiau perfformio, tipyn o gamp. Yn osgytal ? hyn fe gawson ni ginio Nadolig ym Mhantygwydr, a barbyciw yn Hafan.
Diolch yn fawr i Helen am lywio?r cyfan yn wych ac am ei hamynedd maith, ac i John am fod mor ddibynadwy a disglair ar y piano.
Roedd tair o?r nosweithiau yn Nhy Tawe, ac mae?n dda ein bod wedi llwyddo i feithrin cynulleidfa?n lleol. Rydyn ni wedi datblygu?n rhaglen gerddorol, a Helen yn ein gwthio i gyfeiriadau newydd.
Edrychwn ymlaen at weld pawb yn ôl gyda?i gilydd ym mis Medi.? Byddwn yn cychwyn yn ôl y nos Fercher gyntaf ym mis Medi, Medi?r 5ed.? Bydd yn dda cael cefnogaeth dda eto ar gyfer rhaglen yr hydref a?r gaeaf. Bydd y daith i Lundain ddechrau Tachwedd yn uchafbwynt wrth gwrs. Bydd cyngerdd gennym i?r ceiswyr lloches yn Nhy Tawe ddiwedd Medi, a gobeithiwn drefnu blwyddyn gerddorol lawn arall.