Cynhaliodd y côr ei gyngerdd haf yn Nhy Tawe nos Fercher, Gorffennaf 5. Canodd y côr amrywiaeth o ganeuon gan gynnwys Cadwyn Cariad, trefniant John Evans, Dashenka gan Islwyn Ffowc Elis, Nella Fantasia o waith Chiara Ferràu ac Ennio Morricone, Eryr Pengwern gan Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins, Rhyfel gan Robert Vaughan ar eiriau Hedd Wyn, Carol Haf gan Rhys Elis o’r Waun a Trysor o Ddawn, casgliad o ganeuon Ryan Davies wedi’u trefnu gan Meirion Jones.
Monthly Archives: Medi 2017
CYNGERDD LLANDEILOFERWALLT
Cynhaliodd y côr ei gyngerdd blynyddol yn Llandeiloferwallt, nos Lun, Mehefin 19, 2017 i Gymdeithas Gymraeg yr ardal. Canodd Helen ambell unawd a mwynhaodd y côr y noson braf o haf.