DATHLU’R NADOLIG Sali Wyn yn anrhegu Helen Cafodd aelodau’r côr amser da yn eu cinio Nadolig ym mwyty’r Tapestri, Abertawe. Ar ôl gwledd cafwyd sesiwn o ganu, ac aelodau’r côr yn dangos meistrolaeth ar yr eitemau a ddysgwyd yn ystod y tymor.