Category Archives: Hanes

Colli Eleri

Llun: Eleri gydag Elgar ac Elid ym mhriodas Llinos, rai blynyddoedd yn ôl.

Tristwch mawr eleni oedd colli un o aelodau mwyaf pybyr y côr.  Bu farw Eleri Morris ar y 15fed o Ionawr, ar ôl cyfnod o salwch.  Bu’n garedig a hael wrth yr holl aelodau, ac roedd wrth ei bodd yn canu yng nghyngherddau’r côr ac ar y teithiau.  Bydd bwlch mawr ar ei hôl. Cydymdeimlwn ag Emyr, sy’n dal yn aelod o’r côr, ac Elid a’u teulu.

Cinio Nadolig

Cinio Nadolig y côr yn Verve
Helen yn annerch

Dathlodd aelodau’r côr y Nadolig trwy gael cinio yng ngoruwchystafell bwyty Verve, yn yr Uplands, Abertawe, nos Wener, 13 Rhagfyr.

Cyngherddau’r Nadolig

Ty Tawe a Mount Pleasant

Dathlu’r Nadolig yn Nhy Tawe
Helen yn mwynhau
Helen yn arwain

Bu’r côr yn weithgar yng nghyfnod y Nadolig, 2019.  Canodd y côr ddwywaith yn ystod dathliadau Nadolig Ty Tawe, gyda phlant Ysgol Gymraeg Bryn-y-môr hefyd yn diddanu. Roedd Ffair Nadolig y Fenter nos Wener, Tachwedd 22, a chyngerdd Nadolig nos Wener, Rhagfyr 20. Roedd neuadd lawn y ddwy noson.

Derec, gweinidog Capel Gomer, yn annerch yng nghapel Mount Pleasant

Canodd y côr hefyd yng nghapel Mount Pleasant, yng ngwasanaeth Nadolig Capel Gomer.  Roedd dau gant yno i fwynhau’r gwasanaeth Cymraeg, a chafwyd gwledd yn dilyn y gwasanaeth, diolch i aelodau’r capel.  Mae Capel Gomer yn cwrdd yn Nhy Tawe bob prynhawn Sul.

Cyngherddau’r Croesholiad

Caerfyrddin a Chlydach

Y côr gyda’r unawdwyr, a John, Helen a Nicki

Bu’r côr yn canu’r Croeshoeliad, gan John Stainer, gyda Chôr Seingar, yng Nghaerfyddin nos Sul, Mawrth 24 ac eto yng Nghapel y Nant, Clydach, nos Sul, y 7fed o Ebrill.

Yn hanner cyntaf y gyngerdd, canodd y corau, dan arweiniad Nicki Roderick,  eitemau Carly Simon (Cod i ddeffro Gwalia Wen), a Rhys Jones (O Gymru), a chafwyd eitemau uniol a deuawdau gan Helen Gibbon, Gwyn Morris ac Efan Williams. Y ddau olaf oedd unawdwyr y Croeshoeliad, a Helen yn arwain.

Yng Nghaerfyrddin Meirion Wynn Jones oedd yr organydd, a Fiona Gannon oedd wrth yr organ yn Nghlydach.

Codwyd £1000 i Lyfrau Llafar Cymru, a £300 i Gronfa Madagasgar.

Côr Ty Tawe a Chôr Seingar yng Nghapel y Nant, Clydach

Cyngerdd Heol Awst

Y côr yn Heol Awst

Cafodd y côr groeso mawr yn Heol Awst, Caerfyrddin, nos Fercher, 13 Mawrth 2019, pan gyflwynon nhw noson o gân a cherdd i ddwy gangen o Ferched y Wawr yn eu dathliad Gwyl Ddewi. Canwyd caneuon o eiddo Eric Jones, Ryan Davies, Linda Gittins ac eraill. Canodd Helen Hwiangerdd Afon Tywi o waith Mererid Hopwood ac Eric Jones, a chafwyd adroddiadau gan Guto ap Gwent, Linda Williams a Catrin Alun. 

Plygain Llanddarog

Plygain

Mwynhaodd y côr gymryd rhan yng ngwasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanddarog, nos Sul, 13 Ebrill, 2019. Cafodd y côr wledd yn nhy Janet cyn y noson, a gwledd wedyn yn yr eglwys ar ol canu.  Canodd y côr ddwy garol, gan gynnwys un o waith Maurice Loader, a’r gerddoriaeth gan Christopher Williams.

Janet yn cynnig paned a gwledd
Y côr yn ymarfer

GWASANAETH YN Y BABELL

 

Helen a Gwyn a’r côr

Cymerodd y côr ran yng Ngwasanaeth Carolau Capel y Babell, Caerfyrddin.  Darllenodd Helen nifer o rannau o’r ysgrythur, a darllenodd Geraint yng ngolau cannwyll.  Canodd y côr nifer o eitemau, Mwynhawyd danteithion yn y festri a noson braf wedyn yng nghartref Helen a Gwyn.  Diolch iddyn nhw am eu haelioni.

 

FFAIR NADOLIG

Roedd Ty Tawe o dan ei sang nos Wener 24 Tachwedd ar gyfer y Ffair Nadolig, a drefnwyd gan y Fenter Iaith.  Agorwyd y noson gan y côr, yn canu detholiad o garolau hen a newydd.  Cafwyd eitemau gan Aelwyd Clydach ac Ysgol Gerdd Llwynbrwydrau, a rhwng y stondinau crefftau a’r siop a’r bar, cafwyd noson wrth fodd pawb.

Helen yn archwilio’r stondinau cyn canu

Y côr yn barod i ganu

Saib cyn canu i Ysgol Gerdd Llwynbrwydrau