Bu grwp o’r côr yn canu carolau plygain yng ngwasanaeth carolau Capel Gomer, a gynhaliwyd cyn y Nadolig yng nghapel Mount Pleasant, Ffordd y Brenin, Abertawe. Dafydd Mills, o’r Fenter Iaith, hyfforddodd y côr.

Mwynhaodd y côr yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn, 29 Chwefror, ar lwyfan dathlu Gwyl Ddewi’r Cyngor.
Mwynhaodd y côr yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn 29 Chwefror, ar lwyfan dathlu Gwyl Ddewi‘r Cyngor.
Llun: Eleri gydag Elgar ac Elid ym mhriodas Llinos, rai blynyddoedd yn ôl.
Tristwch mawr eleni oedd colli un o aelodau mwyaf pybyr y côr. Bu farw Eleri Morris ar y 15fed o Ionawr, ar ôl cyfnod o salwch. Bu’n garedig a hael wrth yr holl aelodau, ac roedd wrth ei bodd yn canu yng nghyngherddau’r côr ac ar y teithiau. Bydd bwlch mawr ar ei hôl. Cydymdeimlwn ag Emyr, sy’n dal yn aelod o’r côr, ac Elid a’u teulu.
Yn ôl ei arfer blynyddol, manteisiodd y côr ar y cyfle i ganu yng ngwasanaeth Plygain eglwys Llanddarog, nos Sul, 12 Ionawr, 2020. Darparodd Janet wledd, ac roedd hyn yn sail ardderchog i ganu’r côr.
Bu’r côr yn weithgar yng nghyfnod y Nadolig, 2019. Canodd y côr ddwywaith yn ystod dathliadau Nadolig Ty Tawe, gyda phlant Ysgol Gymraeg Bryn-y-môr hefyd yn diddanu. Roedd Ffair Nadolig y Fenter nos Wener, Tachwedd 22, a chyngerdd Nadolig nos Wener, Rhagfyr 20. Roedd neuadd lawn y ddwy noson.
Canodd y côr hefyd yng nghapel Mount Pleasant, yng ngwasanaeth Nadolig Capel Gomer. Roedd dau gant yno i fwynhau’r gwasanaeth Cymraeg, a chafwyd gwledd yn dilyn y gwasanaeth, diolch i aelodau’r capel. Mae Capel Gomer yn cwrdd yn Nhy Tawe bob prynhawn Sul.
Bu’r côr yn canu’r Croeshoeliad, gan John Stainer, gyda Chôr Seingar, yng Nghaerfyddin nos Sul, Mawrth 24 ac eto yng Nghapel y Nant, Clydach, nos Sul, y 7fed o Ebrill.
Yn hanner cyntaf y gyngerdd, canodd y corau, dan arweiniad Nicki Roderick, eitemau Carly Simon (Cod i ddeffro Gwalia Wen), a Rhys Jones (O Gymru), a chafwyd eitemau uniol a deuawdau gan Helen Gibbon, Gwyn Morris ac Efan Williams. Y ddau olaf oedd unawdwyr y Croeshoeliad, a Helen yn arwain.
Yng Nghaerfyrddin Meirion Wynn Jones oedd yr organydd, a Fiona Gannon oedd wrth yr organ yn Nghlydach.
Codwyd £1000 i Lyfrau Llafar Cymru, a £300 i Gronfa Madagasgar.
Cafodd y côr groeso mawr yn Heol Awst, Caerfyrddin, nos Fercher, 13 Mawrth 2019, pan gyflwynon nhw noson o gân a cherdd i ddwy gangen o Ferched y Wawr yn eu dathliad Gwyl Ddewi. Canwyd caneuon o eiddo Eric Jones, Ryan Davies, Linda Gittins ac eraill. Canodd Helen Hwiangerdd Afon Tywi o waith Mererid Hopwood ac Eric Jones, a chafwyd adroddiadau gan Guto ap Gwent, Linda Williams a Catrin Alun.