CYNGERDD HAF

Cynhaliodd y côr ei gyngerdd haf yn Nhy Tawe nos Fercher, Gorffennaf 5.  Canodd y côr amrywiaeth o ganeuon gan gynnwys Cadwyn Cariad, trefniant John Evans, Dashenka gan Islwyn Ffowc Elis, Nella Fantasia o waith Chiara Ferràu ac Ennio Morricone, Eryr Pengwern gan Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins, Rhyfel gan Robert Vaughan ar eiriau Hedd Wyn, Carol Haf gan Rhys Elis o’r Waun a Trysor o Ddawn, casgliad o ganeuon Ryan Davies wedi’u trefnu gan Meirion Jones.