Category Archives: Lluniau

Plygain Llanddarog

Plygain

Mwynhaodd y côr gymryd rhan yng ngwasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanddarog, nos Sul, 13 Ebrill, 2019. Cafodd y côr wledd yn nhy Janet cyn y noson, a gwledd wedyn yn yr eglwys ar ol canu.  Canodd y côr ddwy garol, gan gynnwys un o waith Maurice Loader, a’r gerddoriaeth gan Christopher Williams.

Janet yn cynnig paned a gwledd
Y côr yn ymarfer

GWASANAETH YN Y BABELL

 

Helen a Gwyn a’r côr

Cymerodd y côr ran yng Ngwasanaeth Carolau Capel y Babell, Caerfyrddin.  Darllenodd Helen nifer o rannau o’r ysgrythur, a darllenodd Geraint yng ngolau cannwyll.  Canodd y côr nifer o eitemau, Mwynhawyd danteithion yn y festri a noson braf wedyn yng nghartref Helen a Gwyn.  Diolch iddyn nhw am eu haelioni.

 

FFAIR NADOLIG

Roedd Ty Tawe o dan ei sang nos Wener 24 Tachwedd ar gyfer y Ffair Nadolig, a drefnwyd gan y Fenter Iaith.  Agorwyd y noson gan y côr, yn canu detholiad o garolau hen a newydd.  Cafwyd eitemau gan Aelwyd Clydach ac Ysgol Gerdd Llwynbrwydrau, a rhwng y stondinau crefftau a’r siop a’r bar, cafwyd noson wrth fodd pawb.

Helen yn archwilio’r stondinau cyn canu

Y côr yn barod i ganu

Saib cyn canu i Ysgol Gerdd Llwynbrwydrau

DATHLU’R NADOLIG

Sali Wyn yn anrhegu Helen

Cafodd aelodau’r côr amser da yn eu cinio Nadolig ym mwyty’r Tapestri, Abertawe.  Ar ôl gwledd cafwyd sesiwn o ganu, ac aelodau’r côr yn dangos meistrolaeth ar yr eitemau a ddysgwyd yn ystod y tymor.

BARBYCIW HAF

Mwynhaodd aelodau’r côr un o nosweithiau sych dechrau Gorffennaf pan gafodd y barbyciw blynyddol ei gynnal.? Daeth yr aelodau ? danteithion o bob math.? Uchafbwynt y noson oedd dadorchuddio cerflun o Hebe, duwies ieuenctid a merch gyfreithlon Zeus a Hera, sy’n offrymu neithdar i’r duwiau.? Rhoddodd Helen, arweinydd y côr, ddarlith ar dduwiau Groeg, a chafodd y cerflun drudfawr ei ddadorchuddio gan Linda.? Rhybuddiodd David y byddai’r ardd gerfluniau’n dod yn gyrchfan pererindodau.

Gwyn yn coginio

Gwyn yn coginio

Bwyta brwd

Bwyta brwd

Helen yn darlithio

Helen yn darlithio

Linda'n dadorchuddio

Linda’n dadorchuddio

 

Yn barod am y bwyd

Yn barod am y bwyd

David yn rhybuddio am y pererindodau

David yn rhybuddio am y pererindodau

gwin a mwy

gwin a mwy

Linda fel Hebe

Linda fel Hebe

EISTEDDFOD YR HENDY 14 MAI 2016

Cafodd y côr noson lwyddiannus yn Eisteddfod yr Hendy, nos Sadwrn 14 Mai.? Canodd y côr ddwy eitem, Tair C?n Hwngaraidd a Hwyrddydd Ebrill.?? Daeth y côr yn drydydd a chael gwobr sylweddol, diolch i haelioni’r eisteddfod.

Y côr yn ymarfer

Y côr yn ymarfer

Helen yn mynd i hwyl

Helen yn mynd i hwyl

Trafod cerddorol

Trafod cerddorol

trafodaeth tacteg

trafod tacteg

Rex yn chwilio am wenoliaid y bondo

Rex yn chwilio am wenoliaid y bondo

sopranos yn gwybod eu gwaith

sopranos yn gwybod eu gwaith a Rex yn dal i chwilio

David a Linda'n hapus cyn y canlyniad

David a Linda’n hapus cyn y canlyniad

Dathlu’r Wyl, 2015

Dathlu Gwyl Ddewi yn Abertawe

Bu’r côr yn canu ganol dydd, Chwefror 28, yn y babell berfformio ger y farchnad, yn rhan o ddathliadau Gwyl Ddewi’r ddinas.? Yna ymunodd aelodau’r côr ?’r orymdaith o gannoedd o gwmpas strydoedd canol y ddinas, gan ganu hwnt ac yma.

Helen yn arwain

Helen yn arwain

cyn dechrau canu

cyn dechrau canu

canu wrth gerdded

canu wrth gerdded

John ar ôl cyfeilio

John ar ôl cyfeilio

Clonc o flaen y farchnad

Clonc o flaen y farchnad

Mwynhau'r canu

Mwynhau’r canu

Gyda Mr Urdd

Gyda Mr Urdd