Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yng Nghapel Awst, Caerfyrddin, nos Iau Hydref 8, 2009. Daeth cynulliad da ynghyd, a chanodd y côr lawer o’r caneuon a fydd ar y CD newydd. Yn eu plith roedd Ym Mhenrhyn Gwyr, geiriau Mererid Hopwood, cerddoriaeth Eric Jones, a gyfansoddwyd yn benodol i’r côr.
Canodd angharad Thomas ddwy g?n werin a hefyd osodiad Edgar Hughson o ‘Calon L?n’. Canodd Helen Gibbon Min y Mor gan Eric JOnes, a chanodd y ddwy O Hyfryd Hedd, o Jwdas Macabeus, Handel, a Benedictus, Robat Arwyn, gyda’r côr.
Paratowyd gwledd i’r côr gan aelodau’r capel ar ôl y gyngerdd.