Cafodd y côr hwyl ar gystadlu yng Nghaerdydd, Awst 2008.
“Arddeliad a hwyl a graen”
Er nad enillodd y côr yn yr Eisteddfod, cafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad teledu: ‘sain gynnes’, ‘perfformiad ardderchog’.
Meddai beirniaid yr eisteddfod fod y côr wedi canu gydag “arddeliad a hwyl a graen”.
Roedd rhyw 30 yn canu – dipyn yn llai na’r corau buddugol.
‘Hwn yw Ty? Dduw’ (cyfieithiad o Locus Iste, Bruckner), ‘Yr Aderyn’ (o waith Brian Hughes) a ‘Cenwch foliant i’r Iôr’ (Hywel Glyn Lewis) oedd rhaglen y côr, a gafodd ei chanmol am ei hamrywiaeth.
Mae lluniau’r côr ar y llwyfan ar gael gan lluniaullwyfan.com