Helen a John

Arweinydd y côr yw Helen Gibbon, a John Evans yw’r cyfeilydd.

Cyngerdd Cwmann

?

?

?

Helen Gibbon

Arweinydd y côr yw Helen Gibbon, sy?n unawdydd soprano adnabyddus. Enillodd y wobr gyntaf bedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac roedd ei llwyddiant mwyaf diweddar yn 2002. Bu?n unawdydd gyda sawl côr ac mewn sawl gwlad, gan gynnwys Gwlad P?yl, yr Iseldiroedd, Awstria, a dwywaith yn Unol Daleithiau America, yn Washington, Baltimore a Scranton.

Arweiniodd nifer o gorau ieuenctid, a enillodd gystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd. Mae hi?n athrawes yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin.

John Evans

Bu John Evans yn gyfeilydd y côr o gyfnod cynnar, ac mae e hefyd yn gyfeilydd côr meibion enwog. Graddiodd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion, a bu?n faswnydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru. Mae e?n trefnu cerddoriaeth i gorau, ac yn athro offerynnau chwyth yn ysgolion uwchradd Llanelli a?r cylch.