Ty Tawe a Mount Pleasant
Bu’r côr yn weithgar yng nghyfnod y Nadolig, 2019. Canodd y côr ddwywaith yn ystod dathliadau Nadolig Ty Tawe, gyda phlant Ysgol Gymraeg Bryn-y-môr hefyd yn diddanu. Roedd Ffair Nadolig y Fenter nos Wener, Tachwedd 22, a chyngerdd Nadolig nos Wener, Rhagfyr 20. Roedd neuadd lawn y ddwy noson.
Canodd y côr hefyd yng nghapel Mount Pleasant, yng ngwasanaeth Nadolig Capel Gomer. Roedd dau gant yno i fwynhau’r gwasanaeth Cymraeg, a chafwyd gwledd yn dilyn y gwasanaeth, diolch i aelodau’r capel. Mae Capel Gomer yn cwrdd yn Nhy Tawe bob prynhawn Sul.