Cynhaliodd y côr ei gyngerdd haf yn Nhy Tawe nos Fercher, Gorffennaf 5. Canodd y côr amrywiaeth o ganeuon gan gynnwys Cadwyn Cariad, trefniant John Evans, Dashenka gan Islwyn Ffowc Elis, Nella Fantasia o waith Chiara Ferràu ac Ennio Morricone, Eryr Pengwern gan Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins, Rhyfel gan Robert Vaughan ar eiriau Hedd Wyn, Carol Haf gan Rhys Elis o’r Waun a Trysor o Ddawn, casgliad o ganeuon Ryan Davies wedi’u trefnu gan Meirion Jones.
Author Archives: Heini
CYNGERDD LLANDEILOFERWALLT
Cynhaliodd y côr ei gyngerdd blynyddol yn Llandeiloferwallt, nos Lun, Mehefin 19, 2017 i Gymdeithas Gymraeg yr ardal. Canodd Helen ambell unawd a mwynhaodd y côr y noson braf o haf.
CLWB CINIO MENYWOD CAERFYRDDIN
Cafodd Helen Gibbon wahoddiad i fynd â’i chyfeillion i ganu i Ginio Gwyl Dewi Menywod Caerfyrddin yng Ngwesty Llwyniorwg. Roedd yn anrhydedd i’r côr ei bod hi wedi cynnull parti o blith y côr i ganu yno, a chafwyd noson gofiadwy, gydag eitemau gan Helen a Heledd Evans, gyda John Evans yn cyfeilio. Canwyd detholiad o ganeuon poblogaidd y côr yn ddigopi.
Heledd a John
CAWL A CHAN GWYL DEWI 2017
CAWL A CH?N DYDD GWYL DEWI
Roedd neuadd Ty Tawe’n llawn ar gyfer y noson Cawl a Ch?n flynyddol.? Roedd 6 sosbaned o gawl yn ffrwtian, a llwyth o bice a danteithion eraill i’w mwynhau.? Canodd y côr saith o eitemau, a Helen yn canu unawd a ch?n gyda’r parti merched. Cyfeiliodd John yn ddeheuig yn ôl ei arfer. Roedd cyfle i’r gynulleidfa ymuno mewn chwech o ganeuon.? Noson braf o ddathlu ein Cymreictod.
CANU PLYGAIN YN LLANDDAROG
Ffurfiodd naw o’r côr barti plygain i ganu yn y Gwasanaeth Plygain a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Twrog, Llanddarog, brynhawn Sul, Ionawr 8. Roedd yn noson o ganu plygain braf gan ryw ddeg o bartion, a’r eglwys yn llawn a danteithion a gwin i’r cantorion a’r gynulleidfa. Mwynhaodd y parti wledd yn nhy Janet cyn ymarfer ar gyfer y gwasanaeth.
CAPEL Y BABELL 2016
Lluniau: Helen yn paratoi / John a Helen cyn y gwasanaeth / Y sopranos yn rhannu cyngor / Y dynion yn barod amdani / Y merched yng ngolau cannwyll / Helen yn diffodd cannwyll beryglus
Côr Ty Tawe oedd y côr gwadd yng ngwasanaeth golau cannwyll Capel y Babell, Caerfyrddin, nos Sul, Rhagfyr 11.? Canodd y côr bedair o eitemau, gan gynnwys Trysor y Nadolig gan Gilmor Griffiths, wedi ei drefnu gan Meirion Wyn Jones.
DATHLU’R DOLIG YN NHY TAWE
Cynhaliodd y côr noson lwyddiannus iawn yn Nhy Tawe nos Fercher, Rhagfyr 7.? Daeth dros dri deg i lenwi’r neuadd ac i fwynhau gwin y gaeaf, wedi’i baratoi gan Clive, danteithion o waith nifer o aelodau’r côr ac i glywed y côr yn canu ei raglen ddiweddaraf.
Lluniau: Helen yn cynghori’r sopranos / Paratoi diwyd / John wrth y piano / Mynychwyr yn canolbwyntio / Helen yn hapus / Mynychwyr yn mwynhau / Helen Evans yn hapus / Sali Wyn yn hapus / Mynychwyr ar fin mwynhau danteithion / Helen yn hapus ar y diwedd
? ?
YMARFERION
CAPEL Y NANT 2016
Cododd Capel y Nant, Clydach ?250 tuag at eu helusennau pan ddaeth Côr Ty Tawe i ganu yno ym mis Tachwedd. Canodd y côr raglen Nadoligaidd, gan gynnwys eistemau newydd iddyn nhw, gan Gareth Glyn, John Rutter a Meirion Wynn Jones.
Y côr yn paratoi / Robat Powel yn annerch / John wrth y piano / Helen yn Nadoligaidd
BARBYCIW HAF
Mwynhaodd aelodau’r côr un o nosweithiau sych dechrau Gorffennaf pan gafodd y barbyciw blynyddol ei gynnal.? Daeth yr aelodau ? danteithion o bob math.? Uchafbwynt y noson oedd dadorchuddio cerflun o Hebe, duwies ieuenctid a merch gyfreithlon Zeus a Hera, sy’n offrymu neithdar i’r duwiau.? Rhoddodd Helen, arweinydd y côr, ddarlith ar dduwiau Groeg, a chafodd y cerflun drudfawr ei ddadorchuddio gan Linda.? Rhybuddiodd David y byddai’r ardd gerfluniau’n dod yn gyrchfan pererindodau.