CD YN GWERTHU’N WYCH
Mae CD Côr Ty Tawe erbyn hyn wedi gwneud elw.??Cafodd y CD hwb pan ddaeth teledu Tinopolis i ffilmio’r noson lansio ym mwyty Truffles yn Heol Brynymor, Abertawe. Gwerthwyd copiau yn y gyngerdd yn Llundain cyn Nadolig 2012 ac yn Llanddarog ym mis Ebrill 2013.? Mae copiau ar gael yn awr am ?5. Cysylltwch ag aelod o’r côr.
?Ym Mhenrhyn G?yr?, cerdd ddiweddar gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth wedi?i chyfansoddi?n arbennig gan Eric Jones i Gôr Tŷ Tawe a Helen Gibbon, yw c?n deitl CD newydd Côr Tŷ Tawe.
Mae?r CD yn cynnwys caneuon amrywiol gan y côr, ac unawdau a deuawdau gan Helen Gibbon, yr arweinydd, a Sion Goronwy, y canwr bas o?r Bala.
Bu Sion Goronwy, sy?n datblygu gyrfa ryngwladol fel canwr opera, yn canu gyda?r côr yn Berlin a Wittenberg, ac mewn cyngerdd ger y Bala. Mae ganddo ddwy unawd ar y CD, a dwy ddeuawd gyda Helen a?r côr.?Dyma ail CD y côr. Cynhyrchwyd a chyhoeddwyd ef gan Gwmni Fflach o Aberteifi. Mae ar gael gan swyddogion y côr, (gw. ‘Pwy yw Pwy’) a thrwy Siop Tŷ Tawe am ?10..