Helen yn yr eglwys
Noson oer o Ragfyr, s?r yn pefrio, y lleuad yn codi uwch ysgwydd y bryn, ac eglwys gynnes, lawn.
Paratoi cyn y gyngerdd
Cafodd aelodau’r côr noson wrth eu bodd yng Nghwmann nos Sul, Rhagfyr 14, 2008. Gyda Helen yn arwain ac yn canu, Teifryn yn canu unawdau traddodiadol a charolau, a’r côr yn canu detholiad o’i hoff ganeuon a charolau, cafwyd cyngerdd lwyddiannus. A digon o fwyd wedyn yn y neuadd, gan gynnwys teisennau sbwng cartref arbennig.
Cyflwynwyd y noson gan yr Hybarch Andy John, ficer Pencarreg sydd wedi ei ethol yn esgob Bangor.
Roedd hi’n rhewi’r tu allan, ond yn gynnes o ran gwres ac ysbryd y tu mewn.
Neges gan Dylan:
Llongyfarchiadau ar gyngerdd hyfryd nos Sul yng Nghwmann.? Sain arbennig iawn i’r canu.? Neis iawn eich gweld i gyd eto.? Edrych mlaen i’ch clywed eto yn yr ardal.
Nadolig Llawen i bawb yn y cor.
Cofion
Dylan