Trist yw gorfod cofnodi marwolaeth Elgar Morris, gwr Eleri a thad Elid ac Emyr, y tri ohonynt yn aelodau ffyddlon o’r côr. Roedd Elgar yn gefnogwr brwd, a mwynhaodd sawl taith dramor yng nghwmni’r côr. Fe’i cofir yn wr diymhongar, bonheddig, eang ei wybodaeth a’i ddiddordebau, ac fel hoff gyfaill aelodau’r côr.