Author Archives: Heini

Anrhydeddu’r Canon John Walters

Cafodd y côr gyfle i gymryd rhan mewn noson i ddiolch i’r Canon John Walters wrth iddo ymddeol.? Cynhaliwyd y noson yn yr Institiwt Pontarddulais gan Gyngor y Bont, nos Iau, Ebrill 29. 2015.

Kevin Johns oedd yn arwain y noson a chafwyd anerchiadau gan Eric Jones, ar ran capeli Pontarddulais, y Tad John Thomas ar ran y Gymuned Gatholig a Norman Lewis ar ran eglwysi Apostolig y cylch.

Gwnaed cyflwyniad i John Walters gan y Cynghorydd Kevin Griffiths, Maer Cyngor Tref Pontarddulais.

Helen yn paratoi'r côr

Helen yn paratoi’r côr

Helen a heledd yn ymarfer Benedictus

Helen a Heledd yn ymarfer Benedictus

Guto, Dafydd, Linda a David

Guto, Dafydd, Linda a David

Dathlu’r Wyl, 2015

Dathlu Gwyl Ddewi yn Abertawe

Bu’r côr yn canu ganol dydd, Chwefror 28, yn y babell berfformio ger y farchnad, yn rhan o ddathliadau Gwyl Ddewi’r ddinas.? Yna ymunodd aelodau’r côr ?’r orymdaith o gannoedd o gwmpas strydoedd canol y ddinas, gan ganu hwnt ac yma.

Helen yn arwain

Helen yn arwain

cyn dechrau canu

cyn dechrau canu

canu wrth gerdded

canu wrth gerdded

John ar ôl cyfeilio

John ar ôl cyfeilio

Clonc o flaen y farchnad

Clonc o flaen y farchnad

Mwynhau'r canu

Mwynhau’r canu

Gyda Mr Urdd

Gyda Mr Urdd

Cyngerdd Treforys

Cyngerdd Treforys

trafod cyn cychwyn

Cafwyd hwyl ar gyngerdd cynta?r flwyddyn nos Iau, 15 Ionawr, yn y Tabernacl, Treforys, i Gymdeithas Gymraeg Treforys. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn dilyn Eisteddfod Abertawe 2006. Canodd y côr ddwsin o ganeuon, gan gynnwys Tangnefeddwyr ac Ym Mhenrhyn Gwyr, cerddoriaeth Eric Jones, a Chytgan y Caethweision, Verdi.

Helen gydag un o'r cwmwl tystion

Yr unwawdwyr oedd Heledd Evans a Dafydd Hywel Evans, nith a nai i Helen Gibbon, yr arweinydd, gyda John, ei chefnder, yn cyfeilio. Roedd dwy o ganeuon y diweddar Rhys Jones yn rhan o?u rhaglen, Beth wna?r heniaith, a Cilfan y Coed.

Marian a Sal yn trafod

Cyngerdd Lerpwl

Croeso mawr yn Lerpwl

Ymarfer yn y bwyty nos Wener

Ymarfer yn y bwyty nos Wener

John wrth y piano

John wrth y piano

Cafodd y côr groeso mawr gan gynulleidfa Gymraeg Bethel, Lerpwl, nos Sadwrn, Hydref 25, 2014. Y Parch D. Ben Rees lywiodd y noson o ganu, gyda Helen Gibbon, Heledd Evans, a Sion Goronwy’n unwawdwyr, a John Evans wrth y piano. Canodd y côr ddeuddeg o ganeuon, gan gynnwys Cytgan y Caethweision o waith Verdi a Ddoe mor Bell, addasiad Ryan Davies o g?n y Beatles. Gorffennwyd gyda datganiad o Tangnefeddwyr, Waldo Williams, a cherddoriaeth Eric Jones.

Ymarfer cyn y gyngerdd

Ymarfer cyn y gyngerdd

Un o ganeuon?Heledd oedd?Gwynfyd gan Crwys, cerddoriaeth Meirion Williams a chanodd Helen Ynys y Plant, geiriau Elfed a cherddoriaeth E T Davies. Ymysg eraill canodd Sion Goronwy aria enwog y Tywysog Gremin? o opera Tsiacoffsgi, Ewgen Onegin.

Heledd Evans

Heledd Evans

Sion Goronwy

Sion Goronwy

Dyma un o gyngherddau mwyaf cofiadwy’r côr.

Y Parch D Ben Rees a David Williams yn trafod adeg David a Greta yn Lerpwl

Y Parch D Ben Rees a David Williams yn trafod adeg David a Greta yn Lerpwl

Helen yn hapus

Helen yn hapus

Cyngerdd Sgeti, Medi 16, 2014

Cyngerdd Sgeti

triawd teuluol

triawd teuluol: Helen, John ei chefnder, a Heledd ei nith

Cynhaliwyd cyngerdd lwyddiannus gan y côr ym Methel Sgeti, 26 Medi 2014, i gefnogi ymgyrch y capel i godi arian i Ap?l Haiti yr Annibynwyr.? Canodd y côr wyth o eitemau, a chafwyd unawdau gan Helen a Heledd Evans, ei nith. Canodd Helen Evans a Bill Gannon rannau arweiniol yn rhai o’r caneuon.

Helen a'r côr

Helen a’r côr

Catrin, Jenny a catrin yn gwledda

Catrin, Jenny a Catrin yn gwledda

yn gwybod y geiriau

yn gwybod y geiriau: Guto, David a Geraint

Mefus a Mwy

Mefus a Mwy

Noson Mefus a Mwy
Noson Mefus a Mwy
Helen yn arwain y côr
Helen yn arwain y côr

Cafwyd noson braf iawn i orffen y flwyddyn. Canodd y côr naw o ganeuon, a chafwyd dau unawd gan Helen a John yn cyfeilio’n ddeheuig yn ol ei arfer.? Bydd y côr yn ailgychwyn nos Fercher gyntaf mis Medi. Bydd cyngerdd gynta’r tymor newydd yng nghapel Bethel, nos Wener, Medi 26, a bydd y côr yn mynd ar daith i Lerpwl ddiwedd mis Hydref ac yn canu yno nos Sadwrn, Hydref 25.

Llandeiloferwallt

Dr Prys Morgan yn diolch i'r côr
Dr Prys Morgan yn diolch i’r côr

Cynhaliodd y côr ei gyngerdd diwedd blwyddyn yn Llandeiloferwallt.? Mae hi wedi dod yn draddodiad ers blynyddoedd i’r côr orffen rhaglen Cymdeithas Gymraeg y pentref.? Canodd y côr naw o eitemau, a chafwyd unawdau gan Helen a’i nith Heledd. John oedd wrth y piano.? Daeth deg ar hugain i lenwi’r neuadd a chafwyd gwledd ar ddiwedd y noson.

Plygeiniau

Cymerodd rhai o gantorion y côr ran mewn dau wasanaeth Plygain, y naill yn Nantgaredig ddiwedd Rhagfyr a’r llall yn Llanddarog ganol Ionawr.? Cawson nhw hwyl arni, a hefyd eu gwala o fwyd ar ôl y canu.? Diolch i gynorthwywyr y capel yn Nantgaredig a’r eglwys yn Llanddarog am y lluniaeth, y te a’r gwin cynnes. Canodd y côr amrywiaeth o garolau Plygain, gan gynnwys rhai ?’u geiriau cywrain gan Maurice Loader.

Cyngerdd Nadolig

Cyngerdd Nadolig

Clive yn paratoi gwin

Clive yn paratoi gwin
Helen yn arwain y côr
Helen yn arwain y côr
Y côr yn canu
Y côr yn canu
Addurn ar y byrddau
Addurn ar y byrddau

Linda'n canu unawd

Linda’n canu unawd

Siarad brwd o gwmpas y bwrdd

Siarad brwd o gwmpas y bwrdd

Roedd nos Fercher, Rhagfyr 11 yn Nhy Tawe yn noson hyfryd.? Diolch i’r nifer dda o rai sy’n dysgu’r Gymraeg, roedd neuadd Ty Tawe’n llawn.? Canodd y côr, o dan arweiniad Helen, wyth o ganeuon y Nadolig, canodd Linda a Catrin Alun unawdau, ac adroddodd Guto, Catrin Rowlands, Janet a Helen Evans gerddi’r Nadolig.? Roedd gwledd o fwyd, diolch i aelodau’r côr, a diolch i Jenny a Clive ac eraill, roedd gwobrau raffl arbennig.? Roedd gwin cynnes i bawb, diolch eto i Clive.? John unwaith eto oedd yn cyfeilio.