Author Archives: Heini

Noson y Babell

Noson Garolau'r Babell
Noson Garolau’r Babell

OLYMPUS DIGITAL CAMERA OLYMPUS DIGITAL CAMERA OLYMPUS DIGITAL CAMERA OLYMPUS DIGITAL CAMERA OLYMPUS DIGITAL CAMERA OLYMPUS DIGITAL CAMERA OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Noson yn y Babell

Cafodd aelodau’r côr noson braf iawn yng ngwasanaeth Carolau’r Babell, Caerfyrddin, nos Sul, Rhagfyr 8, 2013. Canodd y côr bump o garolau, a John Evans wrth y piano a’r organ.? Arweiniwyd y noson gan Helen.

Lluniau: John yn cyfeilio; Jenni a Helen E cyn y gyngerdd; Guto’n cwrdd ?’r Parch Mike Shephard, hen gyfaill iddo; rhai o’r côr cyn y canu; Linda a David wedi mwynhau; John yn cyfeilio; Helen cyn canu; Helen a’i nith yn ymarfer cyn y gyngerdd.

Cyngerdd Clydach

Cyngerdd braf

Cafwyd cyngerdd braf iawn yn y Manor Park, Clydach, nos Fercher, Ionawr 30, 2013, ?i godi arian i Llais, y papur bro. Canodd y côr wyth o ganeuon amrywiol, gan gynnwys rhai gan Robat Arwyn, Joseph Parry, Islwyn Ffowc Elis a Karl Jenkins. Canodd Helen unawd o Er Hwylio’r Haul, Robat Arwyn. John oedd yn cyfeilio.
Helen yn disgwyl canu da
Helen a dwy o’r sopranos am fynd ati
?

Gwledd y Nadolig

Daeth hanner cant i Dy Tawe i fwynhau gwledd o ddanteithion y Nadolig gyda’r côr, nos Fercher 12 Rhagfyr. Roedd gwin y gaeaf yn llifo, diolch i Clive, a gwledd ar y byrddau, diolch i aelodau’r côr, wedi’i threfnu gan Marian. Gyda Helen wrth y llyw a John yn cyfeilio, canodd y côr saith o garolau a chaneuon, a chydganodd pawb nifer o garolau eraill. Noson i’w chofio.? Mae’r côr yn gobeithio canu yn y plygain ym Mhen-y-graig nos Wener, Ionawr 18.

Taith Llundain

Côr Ty Tawe yng Nghanolfan Cymry Llundain

Cafodd y côr daith lwyddiannus iawn i Lundain ddechrau mis Tachwedd 2012. Cynhaliwyd cyngerdd yng Nghanolfan Cymry Llundain, sy’n cael ei reoli gan gyn-aelod o’r côr, Rhian Jones. Roedd llond neuadd yno i wrando ar y côr yn canu deg o ganeuon, gydag eitemau hefyd gan yr arweinydd, Helen Gibbon.

Y Côr yn canu

Ar ôl y gyngerdd cafwyd noson gymdeithasol yn y Ganolfan. Diolch i Rhian am y trefniadau.

Llwyddodd nifer o’r côr i weld dau Gymro’n perfformio yn theatrau’r West End: Owain Arthur a Rob Brydon.

Blwyddyn Brysur

Fe gawson ni flwyddyn brysur iawn, ac mae?n werth cofio?r cyfan:

14 Hydref 2011:??Cyngerdd Er Hwylio?r Haul yng Nghlydach

Wythnos olaf Hydref 2011: Taith i Rovigo, Cyngerdd i
gynulleidfa o 300 yn y Rodonda, Rovigo, a dwy gyngerdd arall yn Rovigo gyda Chôr Meibion Monte Pasubio a hefyd yn Boara Pasini,?a gwleddoedd ar ôl y cyngherddau.

10 Rhagfyr, 2011:???Noson o ganu Nadolig yn Nhy Tawe

14 Rhagfyr, 2011: Cyngerdd Nadolig ym Mhontlliw

(hefyd yn Rhagfyr: aeth rhai o aelodau?r côr i gynorthwyo Côr y Rhyd gyda chanu?r Meseia yn Gymraeg)

29 Chwefror, 2012, Ty Tawe: ? Cawl a Ch?n

Mai 12, 2012: Cystadlu yn Eisteddfod yr Hendy

Mehefin 18, 2012:?Cyngerdd i Gymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt

Gorffennaf 4, 2012: Noson o Ganu Haf, Ty Tawe

Dyna ddeg o nosweithiau perfformio, tipyn o gamp. Yn osgytal ? hyn fe gawson ni ginio Nadolig ym Mhantygwydr, a barbyciw yn Hafan.

Diolch yn fawr i Helen am lywio?r cyfan yn wych ac am ei hamynedd maith, ac i John am fod mor ddibynadwy a disglair ar y piano.

Roedd tair o?r nosweithiau yn Nhy Tawe, ac mae?n dda ein bod wedi llwyddo i feithrin cynulleidfa?n lleol. Rydyn ni wedi datblygu?n rhaglen gerddorol, a Helen yn ein gwthio i gyfeiriadau newydd.

Edrychwn ymlaen at weld pawb yn ôl gyda?i gilydd ym mis Medi.? Byddwn yn cychwyn yn ôl y nos Fercher gyntaf ym mis Medi, Medi?r 5ed.? Bydd yn dda cael cefnogaeth dda eto ar gyfer rhaglen yr hydref a?r gaeaf. Bydd y daith i Lundain ddechrau Tachwedd yn uchafbwynt wrth gwrs. Bydd cyngerdd gennym i?r ceiswyr lloches yn Nhy Tawe ddiwedd Medi, a gobeithiwn drefnu blwyddyn gerddorol lawn arall.

Llwynhendy

Nos Sadwrn, Mai 12 yn Neuadd Ysgol yr Hendy bu’r côr yn cystadlu yn yr Eisteddfod Flynyddol.? Er na chipiwyd y wobr y tro hwn, cafwyd perfformiad graenus. Ym Mhenrhyn Gwyr (Eric Jones)?ac Yr Utgorn a G?n (Joseph Parry) oedd yr eitemau a ganwyd.

Cawl a Ch?n 2012

Noson Wyl Ddewi
?

Roedd neuadd Ty Tawe’n llawn ar gyfer noson o Gawl a Ch?n yn Nhy Tawe, nos Fercher,? Chwefror 29 am 7.00. Ar ôl gwledd o fwyd, canodd y côr yn wych iawn. Cafwyd datganiad o Marged fach fy nghariad gan Guto ap Gwent, ac adroddiadau gan Nia Woods a Catrin Alun a chanodd Helen Gibbon ‘Gymru Fach’ yn wefreiddiol. Gorffennwyd y noson gyda chanu hwyliog dan arweiniad Helen Evans.

Cyn y Nadolig

Ty Tawe

Cafwyd?noson o hwyl y Nadolig yn Nhy Tawe, Nos Sadwrn, Rhagfyr 10? gan gynnwys gwin y gaeaf a danteithion.

Pontlliw

Roedd y noson o adloniant ym Mhontlliw cyn y Nadolig yn llwyddiant mawr. Cafwyd eitemau gan Helen Gibbon a’r côr, a nifer o adroddiadau.

Meseia

Aeth saith o aelodau’r côr i helpu Côr y Rhyd i ganu’r Meseia yn Gymraeg cyn y Nadolig.? Eglwys San Pedr oedd y lleoliad. Roedd y perfformiad, yn ôl pob sôn, yn llwyddiant mawr.

Llandeiloferwallt

Cafwyd cyngerdd llwyddiannus iawn yn Llandeiloferwallt, nos Lun Mehefin 20, 2010.? Cafwyd eitemau gan y côr ar thema cyfansoddwyr Cymru, o waith Joseph Parry, Eric Jones, Islwyn Ffowc Elis ac eraill. Canodd Eleri Gwilym bedair c?n a chafwyd eitemau gan Helen Gibbon, arweinydd y côr.