Ymunodd Cor Ty Tawe a Chor y Rhyd i ganu Requiem Faure yn Llangennech, nos Sadwrn, Tachwedd 8, 2008. Yr organydd oedd Alan Fewster, a Cherddorfa Siambr Cymru oedd y gerddorfa. Cafwyd eitemau pellach ganddyn nhw, gan gynnwys Symffoni rhif un gan William Boyce a Concerto Grosso Op.6 rhif 12 gan Handel.
Canodd y bariton ifanc, Gary Griffiths ganeuon o waith Meirion Williams a Handel, a chanwyd tair can gan William Hunkin, soprano. Canodd y cor Locus Iste gan Bruckner, Cenwch Foliant i’r Ior gan Hywel Lewis a chanwyd Benedictus, Robert Arwyn, gan y cor a Helen Gibbon a Gary Griffiths.
<mwy o luniau i ddod>