Cafodd y côr daith lwyddiannus iawn i Gdansk ar ôl y Pasg.
Cafwyd dwy gyngerdd, y naill yn y Brifysgol a’r llall mewn eglwys newydd yn un o’r maestrefi mawr.? Roedd y cynulleidfaoedd o gant a hanner yn y ddau le wrth eu bodd gyda’r côr, ac ar eu traed yn dilyn cymeradwyaeth frwd.
Roedd y cyngherddau’n cynnwys eitemau crefyddol a Chymreig gan y côr, unawdau gan Helen Gibbon ac unawdau ar yr organ gan Fiona Gannon, gyda John Evans yn cyfeilio’n wych yn ôl ei arfer.
Cafodd y côr gyfle i weld rhai o uchafbwyntiau’r ardal, gan gynnwys yr hen dref, castell Malobork, yr eglwys gadeiriol ym mharc Oliwa a sgw?r Solidarnosc, a oedd ger y gwesty.
(Lluniau: Catrin, Helen, Heini)