Archifau
- Ionawr 2012 (1)
- Tachwedd 2011 (2)
- Hydref 2011 (2)
- Ebrill 2011 (1)
- Chwefror 2011 (1)
- Ionawr 2011 (3)
- Awst 2010 (4)
- Gorffennaf 2010 (3)
- Mehefin 2010 (1)
- Mai 2010 (1)
- Rhagfyr 2009 (1)
- Hydref 2009 (2)
- Awst 2009 (1)
- Mai 2009 (2)
- Mawrth 2009 (1)
- Rhagfyr 2008 (4)
- Tachwedd 2008 (1)
- Medi 2008 (2)
- Awst 2008 (2)
- Gorffennaf 2008 (10)
Categorïau
- Cysylltu (3)
- Hanes (34)
- Lluniau (6)
- Newyddion (32)
- Pwy yw Pwy (3)
- Trefniadau (1)
Cysylltiadau
Meta
Archifau Awdur: Catrin
Helen yn America
Aeth Helen Gibbon, arweinydd y côr, i ganu yn America ddiwedd mis Mai. Roedd hi’n unawdydd gyda Chôr Meibion Ystradgynlais, a bu’n cynnal cyngherddau yn Scranton a Wilksbarre, ac yn cynorthwyo gyda chymanfaoedd canu, ac yn canu yn Efrog Newydd … Parhewch i ddarllen
Postiwyd yn Hanes, Newyddion
Gadewch sylwad
Priodas yn Bethel
Bu digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn, Gorffennaf 10. Priododd Elanna, merch Enid sy’n canu gyda’r sopranos, ym Methel Sgeti, a bu’r côr yn canu yn ystod y gwasanaeth. Daeth hyn â gweithgareddau’r côr i ben am yr haf.
Postiwyd yn Hanes, Newyddion
Gadewch sylwad
Cyngerdd Bethel Sgeti
Nos Wener, Gorffennaf 2, cynhaliodd y Cor gyngerdd i ddathlu agor Festri newydd Bethel, Sgeti. Cafwyd hwyl ar ganu’r Utgorn a Ddiogyn Bach, a hefyd Ym Mhenrhyn Gwyr, ymhlith eitemau eraill. Roedd dwy unawdydd – Abigail Sara ac Eleri Gwilym, … Parhewch i ddarllen
Postiwyd yn Hanes, Newyddion
Gadewch sylwad
Cyngerdd Llandeiloferwallt
Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yn Llandeiloferwallt, nos Lun, Mehefin 21, 2010. Cymdeithas Gymraeg yr ardal oedd yn cynnal y noson, a hwn oedd y trydydd tro i’r Côr gael gwahoddiad i ganu yno. Cafwyd eitemau gan Helen, Heledd a Lowri ac adroddiad … Parhewch i ddarllen
Postiwyd yn Hanes, Newyddion
Gadewch sylwad
Cawl a Chân
CAWL A CHAN YN NHY TAWE Cynhaliwyd noson lwyddiannus iawn i ddathlu Gwyl Ddewi Sul, Chwefror 28. Daeth llond neuadd i fwynhau cawl blasus a baratowyd gan aelodau’r côr ac i glywed y côr yn canu nifer o ganeuon o’i rhaglen newydd … Parhewch i ddarllen
Postiwyd yn Hanes, Newyddion
Gadewch sylwad
CD Ym Mhenrhyn Gwyr
CERDD MERERID HOPWOOD YN GAN DEITL I CD COR TY TAWE ‘Ym Mhenrhyn Gŵyr’, cerdd ddiweddar gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan Eric Jones i Gôr Tŷ Tawe a Helen Gibbon, yw cân deitl CD newydd Côr … Parhewch i ddarllen
Postiwyd yn Hanes, Newyddion
Gadewch sylwad
Cyngerdd Capel Awst
Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yng Nghapel Awst, Caerfyrddin, nos Iau Hydref 8, 2009. Daeth cynulliad da ynghyd, a chanodd y côr lawer o’r caneuon a fydd ar y CD newydd. Yn eu plith roedd Ym Mhenrhyn Gwyr, geiriau Mererid Hopwood, cerddoriaeth … Parhewch i ddarllen
Postiwyd yn Hanes, Newyddion
Gadewch sylwad
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Helen ein harweinydd ar ddod yn 3edd yn y gystadleuaeth Lieder (39 yn cystadlu) a hefyd yn 3ydd yn y gystadleuaeth Mezzo-soprano yn Eisteddfod Genedlaethol Meirionydd a’r cylch eleni. Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn y gystadleuaeth hon. … Parhewch i ddarllen
Yn Stiwdio Heno
Oeddech chi’n canu gyda’r côr yn gynnar yn y 90au? Does dim llawer o’r rhain yn dal i ganu gyda’r côr. Cysylltwch i ddweud.
Postiwyd yn Hanes, Lluniau
Gadewch sylwad
Taith Iwerddon 199?
Un o deithiau cynnar y côr i’r Wyl Ban-geltaidd yn Tralee, (ennill wrth gwrs!) ac ambell un o’r cor yn edrych dipyn yn iau, yn eu plith Angharad, Heledd Mitchell, Ceri Anwen a John…
Postiwyd yn Hanes, Lluniau
Gadewch sylwad